Addysg Gymraeg
Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall Addysg Cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plant.
Dyma rai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu chi i benderfynu a hoffech chi fanteisio ar yr hyn y mae Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig.
Beth mae addysg cyfrwng Cymraeg yn ei wneud?
Mae nod syml iawn i addysg cyfrwng Cymraeg, sef rhoi’r gallu i blant ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg a derbyn addysg yn y pynciau eraill trwy’r cwricwlwm.
Mae plant ifainc yn dysgu ieithoedd yn hawdd iawn a thrwy wneud y gorau o’r potensial hwn y daeth addysg cyfrwng Cymraeg mor boblogaidd.
Pam mae pobl yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg?
Unrhyw reswm arall?
Mae rhai’n dewis addysg Gymraeg ar sail profiadau personol: maen nhw’n adnabod pobl ddwyieithog neu y mae ganddyn nhw blant dwyieithog ac mae’r rheiny felly am i’w plant hwythau fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg a bod hefyd yn gwbl gyfforddus yn y Saesneg.
Yw teuluoedd fel fy un i’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg?
Dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg gartref – fydd fy mhlentyn yn eithriad?
Nid yw’r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn disgwyl i’r plant siarad Cymraeg wrth ddechrau yn yr ysgol ond caiff y plant hynny help i ddod yn rhugl cyn diwedd y flwyddyn gyntaf.
Nid Cymry ydyn ni – oni fyddai’n rhyfedd i ni ddewis addysg cyfrwng Cymraeg?
Yw safonau’r Saesneg yn is mewn addysg cyfrwng Cymraeg?
Ac yn yr ysgolion uwchradd, mae’r plant yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn sefyll union yr un arholiadau TGAU a Lefel A â’u cyfoedion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. (Nid felly’r ffordd groes: nid yw plant mewn addysg cyfrwng Saesneg yn cyrraedd yr un safonau nac yn sefyll yr un arholiadau Cymraeg â phlant yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.)
Sut gallaf i helpu fy mhlentyn gyda’i waith cartref os nad ydw i’n siarad Cymraeg?
Yn hwyrach, bydd y plant yn gallu egluro eu gwaith wrth eu rhieni eu hunain. Mae canlyniadau gwaith ymchwil yn dangos bod trin eu gwaith trwy gyfrwng dwy iaith yn helpu’r plant i ddeall y pwnc. Mae’r wefan addysg, Hwb hefyd yn cynnig ystod o offer dysgu ac adnoddau digidol sydd ar gael yn genedl
A fydd dysgu Cymraeg yn ei gwneud yn anos i’r plant ddysgu iaith arall?
Ddim o gwbl Does bron dim diwedd i allu plentyn i ddysgu ieithoedd. Yn rhan fwyaf gwledydd Ewrop, mae’n gyffredin i blant ifanc siarad dwy neu dair iaith. Gall siarad un iaith helpu i atgyfnerthu’r llall, sy’n ei gwneud yn haws i’r plentyn ddysgu rhagor o ieithoedd yn hwyrach.
Fydd hi’n anodd i fy mhlentyn gael ei dderbyn i addysg cyfrwng Cymraeg?
Petai fy mhlentyn mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, fyddai ganddo gyfoedion o’i ddosbarth yn ein hardal?
Beth am eu haddysg ar ôl gadael yr ysgol?
Gan fod disgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gwbl ddwyieithog, gallant ddewis dilyn cyrsiau coleg neu brifysgol trwy gyfrwng y naill iaith (neu’r ddwy). Yn ddiweddar, mae gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sicrhau bod rhagor o raddau’r brifysgol ar gael (yn rhannol neu i gyd) trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae nifer o gyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gael mewn addysg bellach hefyd. Er hyn, mae disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn aml yn mynd i wneud cyrsiau yn Saesneg yn y coleg neu brifysgol, yng Nghymru a thu hwnt.
Ga’ i ddysgu Cymraeg gyda’m plentyn?